Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Ffioedd Cleifion) (Cymru) 2026 (“y prif Reoliadau”) er mwyn cywiro tri gwall yn y prif Reoliadau a ddaeth i’r amlwg wrth i’r Cofrestrydd O.S. (ar ran Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru) gofrestru’r Rheoliadau hynny.
Mae’r diwygiadau:
a) yn amnewid Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn y testun Saesneg yn unig, i gywiro gwallau yn strwythur a fformat paragraffau 23 i 25 o'r Atodlen honno;
b) yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau; ac
c) yn rhoi tabl newydd yn lle’r tabl presennol yn Atodlen 5 i’r prif Reoliadau yn y ddwy iaith. Effaith hynny yw newid y lefelau ffioedd cleifion, sy’n anghywir ar hyn o bryd, a ddangosir yn ail golofn y tabl hwnnw.
Yn achos y diwygiadau sy'n ymdrin ag (a) ac (c), mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi ei bod yn briodol bod y cywiriadau hyn yn cael eu gwneud cyn i'r prif Reoliadau ddod i rym. Mae'r Memorandwm Esboniadol hefyd yn nodi ei bod yn ddymunol bod y diwygiad sy'n ymdrin â (b) yn cael ei gywiro ar yr un pryd. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2026.
Gweithdrefn
Gweithdrefn annilysu’r Senedd.
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 13 o bwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae'r pwerau galluogi y cyfeirir atynt ar gyfer y Rheoliadau hyn yn cynnwys adran 60(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddydau yw’r pŵer yn adran 60(2). Cyn rhoi cyfarwyddydau o'r fath, o dan adran 60(4) o Ddeddf 2006 rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw gorff yr ymddengys iddynt ei fod yn cynrychioli personau y byddai’r cyfarwyddyd yn ymwneud â’u tâl. Gofynnir i Weinidogion Cymru gadarnhau:
a) ar ba sail y penderfynwyd cynnwys pŵer gwneud cyfarwyddydau fel pŵer galluogi, a'r rheswm dros benderfynu gwneud hynny;
b) pa ddarpariaeth neu ddarpariaethau yn y Rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn; ac
c) a gydymffurfiwyd â'r amod yn adran 60(4) o Ddeddf 2006 ac, os felly, pam na nodir hynny yn y rhaglith i’r Rheoliadau.
2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn rheoliad 1(1), mae teitl y Rheoliadau hyn yn anghywir oherwydd ei fod yn dweud “(Diwygio) (Cymru)”, a ddefnyddir wrth ddiwygio offeryn statudol y DU sy'n ymwneud â Chymru. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio offeryn statudol Cymreig, ac felly dylid nodi yn y teitl “(Cymru) (Diwygio)”, a ddefnyddir wrth ddiwygio offeryn statudol Cymreig.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn rheoliad 2, dylai fod darpariaeth ddatganiadol yn cyflwyno’r gyfres o ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, megis “Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Ffioedd Cleifion) (Cymru) 2026 wedi eu diwygio fel a ganlyn.” Yn niffyg datganiad o'r fath, mae rheoliadau 3 a 4 yn ddiffygiol oherwydd nad ydynt yn nodi ym mha ddeddfwriaeth y mae Atodlenni 2 a 5, yn y drefn honno, i’w cael.
4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiad drwy amnewid testun Saesneg yr Atodlen 1 bresennol i'r prif Reoliadau. Mae paragraff 20(1)(a) o’r Atodlen 1 newydd yn cyfeirio at ddadrestru claf o dan baragraff 17(b). Fodd bynnag, mae paragraff 17(b) yn cyfeirio at y posibilrwydd o roi’r gorau i’r broses ddadrestru. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau ai paragraff 17(b) yw’r croesgyfeiriad cywir yn hyn o beth.
5. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn
O ganlyniad i reoliad 2, sy'n diwygio'r prif Reoliadau drwy amnewid testun Saesneg yr Atodlen 1 bresennol i'r prif Reoliadau, mae paragraff 20(2) o'r Atodlen 1 newydd yn cynnwys sawl gwahaniaeth rhwng y testun Saesneg newydd a'r testun Cymraeg presennol. Yn y testun Saesneg newydd, mae paragraff 20(2) yn Atodlen 1, ond yn nhestun Cymraeg presennol yr Atodlen honno, mae'r ddarpariaeth gyfatebol wedi'i rhifo'n anghywir fel paragraff 20(3). Yn ogystal, mae testun Saesneg newydd paragraff 20(2) yn dweud “The amount claimed under sub-paragraph (1)(a) and (b)…”, ond mae’r testun Cymraeg presennol yn dweud “Rhaid lleihau’r swm a hawlir o dan is-baragraffau (a) a (b)…”.
6. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae paragraff 41(1)(d) o'r Atodlen 1 newydd i'r prif Reoliadau yn cyfeirio at wneud gwaith monitro neu archwilio, ond nid yw'n glir pwy fydd yn gwneud y gwaith monitro neu archwilio hwn. Mae paragraff 40(1)(d) yn nodi y bydd y gwaith monitro neu archwilio yn cael ei wneud gan neu ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol, felly gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod yr un peth yn gymwys yn y cyd-destun hwn a pham na nodir hynny’n benodol yn yr Atodlen 1 newydd.
7. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn
Yn sgil y diwygiad a wneir gan reoliad 2, yn yr Atodlen 1 newydd, ym mharagraff 41(1)(c), mae gwahaniaeth rhwng y testun Saesneg newydd a'r testun Cymraeg presennol. Yn nhestun Saesneg newydd paragraff 41(1)(c), nodir “subject to paragraph (d)”, ond mae’r testun Cymraeg presennol yn dweud “yn ddarostyngedig i is-baragraff (d)”.
8. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Yn sgil y diwygiad a wneir gan reoliad 2, yn Atodlen 1, mae gwaith drafftio paragraff 40(1)(c) a (d) yn wahanol i waith drafftio paragraff 41(1)(c) a (d). Mae paragraff 41(1)(c) yn dechrau drwy ddweud “subject to paragraph (d), the capitation payment cannot be subject to financial recovery…” ond nid yw paragraff 40(1)(c) yn nodi “subject to paragraph (d)” ac mae’n nodi “the capitation payment may not be subject to financial recovery...”. Yn ogystal, mae paragraff 41(1)(d) yn nodi “where monitoring or audit reveals that the contractor is not delivering prevention services in accordance with sub-paragraph (2)(a)...” ond mae paragraff 40(1)(d) yn nodi “where monitoring or audit by or on behalf of the Local Health Board reveals that the contractor is not delivering prevention services in accordance with this Part…” A all Llywodraeth Cymru egluro a yw'r gwahaniaethau o ran gwaith drafftio'r darpariaethau hyn yn fwriadol?
9. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae paragraffau 44 a 45 o'r Atodlen 1 newydd i'r prif Reoliadau yn ymdrin â dadrestru sy'n ymwneud â gwasanaethau atal. Mae cynnwys paragraff 44 yn union yr un fath â chynnwys paragraff 17 sy'n ymdrin â dadrestru ar gyfer pecynnau gofal, ond mae paragraff 17 yn cysylltu â pharagraff 16 ac nid oes dim sy'n cyfateb i baragraff 16 o flaen paragraff 44. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd gweld sut mae paragraff 44 yn gweithio'n ymarferol, gan ei fod yn cyfeirio at gychwyn dadrestru, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth sy'n darparu ar gyfer cychwyn proses ddadrestru mewn perthynas â gwasanaethau atal. Mae paragraff 45 yn ymdrin â'r amgylchiadau pan fo rhaid dadrestru claf, ond unwaith eto, nid yw hyn yn egluro paragraff 44 gan fod paragraff 44(b) yn rhoi disgresiwn ynghylch dadrestru. Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio ar ba sail y caniateir cychwyn y broses ddadrestru o dan baragraff 44 a pham nad yw hyn wedi'i nodi yn yr Atodlen 1 newydd.
10. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 4 yn mewnosod tabl newydd ym mharagraff 4 o Atodlen 5 i’r prif Reoliadau. Cyfeirir yn y tabl newydd at y “deiliad contract” ond nid yw’r term hwn wedi’i ddiffinio yn y prif Reoliadau. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw hyn yn cyfeirio at y contractwr, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2 i'r prif Reoliadau, ac os felly, pam y defnyddir term gwahanol yn y tabl newydd sydd i'w fewnosod ym mharagraff 4 o Atodlen 5 i'r prif Reoliadau.
11. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn
Yn y Tabl 1 newydd, yn y testun Saesneg, yn y drydedd golofn, mae’r cofnodion yn amrywio o ran defnyddio “Oral Hygiene instruction” a’r talfyriad “OHI”, sydd hefyd fel pe bai’n cyfeirio at yr un ymadrodd er nad yw wedi’i ddiffinio ar gyfer y darllenydd. Yn y testun Cymraeg, defnyddir y term llawn, sef “cyfarwyddyd hylendid geneuol”, bob tro. Yn ogystal, defnyddir y term “DBOH” yn nhestun Cymraeg a thestun Saesneg Tabl 1 heb ddiffiniad, ond ymddengys mai ei ystyr yw “Delivering Better Oral Health”, y cyfeirir ato’n llawn mewn lleoedd eraill yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Ffioedd Cleifion) (Cymru) 2026. Yn olaf, defnyddir y term “ANUG” yn y testun Saesneg er nad yw wedi’i ddiffinio. Mae’r testun Cymraeg wedi dehongli ei ystyr fel “Acute Necrotising Ulcerative Gingivitis”, a nodir “llid briwiol madreddol acíwt y deintgig” yn y testun Cymraeg. A yw Llywodraeth Cymru o’r farn y gallai newid rhwng ddefnyddio talfyriadau heb ddiffiniad a defnyddio'r ymadrodd llawn mewn lleoedd eraill fod yn ddryslyd i'r darllenydd nad yw efallai'n gwybod beth yw ystyr y talfyriadau hynny?
12. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Yn y Tabl 1 newydd, yn y drydedd golofn, ar ôl yr ymadroddion “nid yw’n cynnwys ffioedd labordy” ac “ac eithrio ffi labordy”, nodir testun ychwanegol mewn cromfachau megis “(sydd i’w talu’n uniongyrchol gan y claf, oni bai ei fod wedi ei esemptio rhag ffioedd GIG)”. Fodd bynnag, mae'r ymadrodd yn y testun ychwanegol yn anghyson ac yn amrywio rhwng “i’w talu'n uniongyrchol gan y claf” ac “a delir gan gleifion” (heb y gair “uniongyrchol”), er enghraifft, y cofnod ar gyfer “Pecyn Gofal Dannedd Gosod” o gymharu â'r cofnod ar gyfer “Pecyn Sianel y Gwreiddyn ar gyfer Dannedd Ôl”. Yn ogystal, nid yw'r geiriau hynny'n ymddangos ar ôl y geiriau “Nid yw'n cynnwys ffioedd labordy” a “Nid yw’n cynnwys unrhyw ffi labordy” yn nhrydedd golofn rhai o'r cofnodion eraill, megis y cofnodion ar gyfer “Pecyn Gofal Coronau, Pontydd, Mewnosodiadau, Arosodiadau ac Argaenau” ac ar gyfer “Pecyn Gofal Amrywiol”. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a oes gwahaniaeth rhwng yr ymadroddion “a delir” ac “i’w talu’n uniongyrchol” pan gânt eu defnyddio yn y testun ychwanegol mewn cromfachau; ac a oes unrhyw reswm pam nad yw’r testun ychwanegol mewn cromfachau yn ymddangos ar ôl “nid yw'n cynnwys ffioedd labordy” a “nid yw’n cynnwys unrhyw ffi labordy” ar bob achlysur?
13. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Yn y Tabl 1 newydd, yn y cofnod ar gyfer “Pecyn Gofal Periodontol”, yn yr ail golofn, nodir y ffigur “£48.53” o gymharu â “£93.50” yn yr un cofnod yn y Tabl 1 gwreiddiol. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod y ffigur newydd yn gywir oherwydd mae’n sylweddol is na'r ffigur yn y Tabl 1 gwreiddiol yn y prif Reoliadau.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
14. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Daw’r Rheoliadau hyn i rym lai nag 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu gwneud. Ysgrifennodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, at y Llywydd ar 23 Chwefror 2026 i roi'r esboniad a ganlyn:
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Ffioedd Cleifion) (Cymru) 2026 (“y prif Reoliadau”), a osodwyd ar 11 Chwefror ac a ddaw i rym ar 11 Mawrth 2026. Mae'r diwygiadau yn cywiro tri mater a nodwyd yn ystod y broses o gofrestru'r prif Reoliadau na fyddai wedi bod yn briodol eu diwygio o dan y weithdrefn slip cywiro.
Mae'r prif Reoliadau yn gwneud newidiadau i'r ffordd y trefnir contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol a ffioedd cleifion o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'r diwygiadau yn cywiro gwall yn y testun Saesneg yn Atodlen 1, yn disodli'r Tabl yn Atodlen 5 i'r prif Reoliadau yn y ddwy iaith ac yn cywiro gwall teipograffyddol yn y testun Cymraeg. Er mwyn sicrhau bod y prif Reoliadau yn gweithio'n gywir, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ffioedd cleifion a nodir yn Atodlen 5, mae angen dod â'r diwygiadau hynny i rym cyn y prif Reoliadau eu hunain. O ganlyniad, bydd llai na 21 diwrnod rhwng gosod y Rheoliadau diwygio hyn a'r dyddiad y byddant yn dod i rym.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwyntiau adrodd technegol yn unig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
3 Mawrth 2026